Swydd: Ymchwilydd/Gohebydd

Mae Y Selar ac Antena yn chwilio am Ymchwilydd/Gohebydd.

Bydd y gwaith yn cynnwys:

  • Casglu gwybodaeth am gigs a newyddion cerddoriaeth gyfoes amrywiol
  • Pecynnu’r wybodaeth/newyddion ar gyfer gwahanol gyfryngau a chleientiaid
  • Ysgrifennu erthyglau, a chyfrannu at syniadau ar gyfer cynnwys aml-gyfrwng
  • Ymchwilio ar gyfer cynyrchiadau amgen a chyffrous
  • Cydlynu cynyrchiadau a phrosiectau Y Selar ac Antena

Dyma gyfle cyffrous ar gyfer unigolyn brwdfrydig sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth a diwylliant gyfoes ac amgen.

Swydd Lawn Amser

Lleoliad: Swyddfa Antena yng Nghaernarfon
Cyflog: I’w drafod
Dyddiad Cau: Ebrill 19eg 2017

Am fwy o fanylion, cysylltwch â Gill Bowen: gill@antena.co.uk / 01286 662200