Oherwydd ymddeoliad, mae swydd ar gael mewn cwmni cynhyrchu yng Nghaernarfon. Mae ANTENA yn chwilio am Gynorthwywr Cyllid / Person i gofnodi materion ariannol.. Mae hon yn swydd llawn amser a pharhaol. Oriau gwaith fydd Llun i Gwener 9 – 5 gydag 1 awr i ginio. Mae modd bod yn hyblyg.
Cyflog : Rhwng £17,000 a £22,000 yn ddibynnol ar gymhwysterau a phrofiad.
Cyfrifoldebau.
Gofalu am gostau’r gwahanol adrannau a pharatoi taliadau perthnasol.
Cofnodi yn y Llyfr Pryniant.
Talu costau.
Rheoli taliadau arian parod.
Creu anfonebau / prosesu taliadau.
Cadw llyfr cyfrifon safonol
Cofnodi trosglwyddiadau
Rheoli taliadau i’r banc.
T.A.W.
Cyflogau
Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus :-
Wedi arfer gweithio efo sustemau cyfrifon, ac wedi arfer gweithio efo SAGE 50, Microsoft Outlook, Excel a Word.
Yn meddu ar brofiad o weithio gyda chyfrifon / cyllid.
Yn hunanysgogol, yn drefnus ac yn effeithiol ac yn hoff o fanylder a chywirdeb.
Yn medddu ar sgiliau cyfathrebu da.
Y swydd o bosib yn gweddu i berson â chymhwysterau AAT neu gyfartal neu person gydd profiad cymwys.
Am ffurflen gais cysylltwch â:
Gill Bowen, Antena, Cibyn, Caernarfon, Gwynedd LL55 2BD
e.bost: swyddi@antena.co.uk
Dyddiad cau 8/6/2017