Rhyw Fath o Fusnas

Cyfres ddrama gyda John Ogwen yn y brif ran, cymeriad oedd yn rhedeg cwmni tacsis a hynny ddim yn llwyddiannus iawn. Roedd y cwmni hefyd yn cynnig gwisgoedd ffans i’w llogi! Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan John Glyn Owen.