Mae Tŷ Mêl (The Hive yn wreiddiol) yn gyfres animeddio lliwgar i blant oedran meithrin. Mae’n dilyn hanes y teulu bach o wenyn, ac yn cyffwrdd ar bethau sydd o bwys i blant bach, megis, chwarae, bod yn gyfeillgar, treulio amser gyda’ch teulu, a darganfod y Byd a sut mae’n gweithio.
Mae’r actorion sydd yn chwarae rhannau’r gwenyn i gyd yn ymddangos am y tro cyntaf ar S4C.
Morgan – Sion Dafydd Morris 11 oed o Gaeathro.
Mali – Nia Haf 16 oed o Lanrug.
Sionyn – Tomos Sion 14 o Waunfawr.
Maldwyn – Iwan Griffith 12 oed o Pentir.
Dani – Mia Haf Jones 9 oed o Rhiwlas.
Mae’r cymeriadau hŷn yn cael ei lleisio gan gast profiadol iawn ym maes lleisio animeiddio, Elliw Haf, Ffion Llwyd ac Arwel Roberts.
Cafodd y fersiwn Gymraeg o’r teitlau agoriadol ei ganu gan aelodau o Ysgol Glanaethwy.